Newyddion

Isetholiad Llanilltud Faerdref

Mae aelodau Plaid Cymru yn Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf wedi dewis Danny Crudge i sefyll yn yr isetholiad ar y 3ydd o Fedi.

  • Isetholiad Llanilltud Faerdref

    Mae aelodau Plaid Cymru yn Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf wedi dewis Danny Crudge i sefyll yn yr isetholiad ar y 3ydd o Fedi.

  • Realiti Newid Hinsawdd

    Heledd Fychan Flooding Ynysybwl Pontypridd

    "Dydy rhai pobl sy'n sefyll yn Etholiad y Senedd ddim yn credu mewn newid hinsawdd, wel mae angen iddyn nhw fynd i gwrdd â'r bobl sy'n wynebu ei realiti."

    Heledd Fychan
    Ymgeisydd Rhif 1

    Plaid Cymru
    Pontypridd Cynon Merthyr

  • Ward Gofal Lliniarol Arbenigol dan fygythiad

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar sut mae Gofal Lliniarol Arbenigol yn cael ei ddarparu yn Ardal RhCT / Merthyr / Pen-y-bont ar Ogwr.

    Un o'r cynigion yw cau'r ward Gofal Lliniarol Arbenigol wyth gwely yn Ysbyty Cwm Cynon a symud y ddarpariaeth i ofal cartref. Mae ymgeiswyr Plaid Cymru wedi croesawu'r cynnydd mewn gofal cartref, ond credwn y dylid gwneud hyn ochr yn ochr â'r ddarpariaeth barhaus yn Ysbyty Cwm Cynon.

  • Lansiad Ymgyrch 2026

    lawnsiad

    Lansiodd Plaid Cymru eu hymgyrch Pontypridd: Cynon: Merthyr ar gyfer Etholiad y Senedd 2026 yn YMa ym Mhontypridd ar y 6ed o Dachwedd.

  • Plaid yn dewis ymgeiswyr ar gyfer 2026

    Yn dilyn cyfarfodydd dewis ym Mhontypridd, Merthyr ac ar-lein, mae aelodau Plaid Cymru wedi dewis eu rhestr o ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd 2026.

    1. Heledd Fychan

    Heledd_head_and_shoulders.jpg

     

     

     

     

    2. Lis McLean

    Lis_McLean.jpg

     

    3. Sara Crowley

    Sara_Crowley_cropped.png

     

    4. Ian Gwynne

    Ian Gwynne

    5. Farrell Perks

    Farrell Perks

    6. Ioan Bellin

    Ioan Bellin

  • Cyng Dawn Wood i sefyll i lawr

    Dawn WoodNeges gan Cyng Dawn Wood:

    Annwyl breswylydd Ward Tref Pontypridd,


    Fel y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol, bu’n rhaid i mi gymryd cyfnod o absenoldeb o’m rôl fel eich Cynghorydd RhCT a Chynghorydd Cyngor Tref Pontypridd dros misoedd diwethaf oherwydd heriau iechyd sylweddol sy’n gysylltiedig â’m tiwmor ar yr ymennydd.

    Diolch am eich holl eiriau caredig, eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

    Ar ôl ystyriaeth ofalus ac ymgynghori â’m tîm meddygol, rwyf wedi dod i’r penderfyniad anodd bod yn rhaid i mi gamu i lawr o’m rôl i ganolbwyntio ar fy iechyd a’m lles ac felly rwyf wedi cyflwyno fy ymddiswyddiad.