Ward Gofal Lliniarol Arbenigol dan fygythiad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar sut mae Gofal Lliniarol Arbenigol yn cael ei ddarparu yn Ardal RhCT / Merthyr / Pen-y-bont ar Ogwr.

Un o'r cynigion yw cau'r ward Gofal Lliniarol Arbenigol wyth gwely yn Ysbyty Cwm Cynon a symud y ddarpariaeth i ofal cartref. Mae ymgeiswyr Plaid Cymru wedi croesawu'r cynnydd mewn gofal cartref, ond credwn y dylid gwneud hyn ochr yn ochr â'r ddarpariaeth barhaus yn Ysbyty Cwm Cynon.

 

Mae cau'r ward yn cynyddu'r risg o symud baich gofal ar deuluoedd. Mae gennym bryderon difrifol bod y penderfyniad hwn yn cael ei wneud oherwydd prinder staff yn hytrach nag â'r nod o ddarparu'r gofal gorau.

Mae Heledd Fychan AS wedi ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd yn gofyn am gyfarfod i drafod y pryderon hyn.

Gallwch gefnogi galwad Plaid i achub y ward drwy lofnodi'r ddeiseb.

cliciwch yma

Os ydych chi eisiau dweud eich dweud ar y cynigion, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd.