Is-Etholiad Tref Pontypridd

Diolch yn fawr!

Diolch


Is-Etholiad wedi cadarnhau ar gyfer 17 Gorffenaf

Yn dilyn y newyddion trist fod Dawn Wood wedi rhoi’r gorau i’w rôl fel Cynghorydd Plaid Cymru dros Ward Tref Pontypridd – ar RCT a’r Cyngor Tref – oherwydd rhesymau iechyd, mae aelodau lleol Plaid Cymru a thrigolion eraill sy’n byw yn y ward wedi galw is-etholiad i lenwi sedd y Cyngor Tref. Bydd yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod ag isetholiad RhCT.

Wiliam Rees a Dawn Wood

Plaid Cymru yn dewis Wiliam Rees i ymladd y sedd

Mewn cyfarfod o aelodau'r Blaid yn y dref cafodd Wiliam Rees ei ddewis yn unfrydol.

Meddai Wiliam: “Mae hwn yn isetholiad nad oedd neb ei eisiau ac rwyf am roi clod i Dawn am wneud y penderfyniad caled i roi’r gorau iddi er mwyn canolbwyntio ar ei hiechyd.Mae’r nifer enfawr o negeseuon sydd wedi’u hanfon yn dymuno’r gorau iddi yn dweud mwy nag y gallaf erioed o ran pa mor dda y cafodd ei pharchu yn y dref.

Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi a siarad â chi dros y mis nesaf a nodi fy ngweledigaeth ar gyfer ein tref a blaenoriaethau ar gyfer y ward.”

 


Cynghorydd Dawn Wood i sefyll i lawr

Ar 4 Mehefin cyhoeddodd Dawn Wood ei bod yn rhoi'r gorau i fod yn Gynghorydd dros Ward Tref Pontypridd. Gallwch ddarllen ei llythyr i breswylwyr trwy glicio yma.

Dawn_Letter_Welsh.png

 


Gaddo Cefnogaeth

Gaddo

Mae eich cefnogaeth yn golygu llawer i ni. Rhowch wybod i ni os ydych yn pleidleisio dros y Blaid - clicwch yma.