Isetholiad Llanilltud Faerdref

Mae aelodau Plaid Cymru yn Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf wedi dewis Danny Crudge i sefyll yn yr isetholiad ar y 3ydd o Fedi.

Mae aelodau Plaid Cymru yn Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf wedi dewis Danny Crudge i sefyll yn yr isetholiad ar y 3ydd o Fedi.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar sut mae Gofal Lliniarol Arbenigol yn cael ei ddarparu yn Ardal RhCT / Merthyr / Pen-y-bont ar Ogwr.
Un o'r cynigion yw cau'r ward Gofal Lliniarol Arbenigol wyth gwely yn Ysbyty Cwm Cynon a symud y ddarpariaeth i ofal cartref. Mae ymgeiswyr Plaid Cymru wedi croesawu'r cynnydd mewn gofal cartref, ond credwn y dylid gwneud hyn ochr yn ochr â'r ddarpariaeth barhaus yn Ysbyty Cwm Cynon.

Lansiodd Plaid Cymru eu hymgyrch Pontypridd: Cynon: Merthyr ar gyfer Etholiad y Senedd 2026 yn YMa ym Mhontypridd ar y 6ed o Dachwedd.
Yn dilyn cyfarfodydd dewis ym Mhontypridd, Merthyr ac ar-lein, mae aelodau Plaid Cymru wedi dewis eu rhestr o ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd 2026.
2. Lis McLean
3. Sara Crowley
4. Ian Gwynne


6. Ioan Bellin

Neges gan Cyng Dawn Wood:
Annwyl breswylydd Ward Tref Pontypridd,
Fel y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol, bu’n rhaid i mi gymryd cyfnod o absenoldeb o’m rôl fel eich Cynghorydd RhCT a Chynghorydd Cyngor Tref Pontypridd dros misoedd diwethaf oherwydd heriau iechyd sylweddol sy’n gysylltiedig â’m tiwmor ar yr ymennydd.
Diolch am eich holl eiriau caredig, eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.
Ar ôl ystyriaeth ofalus ac ymgynghori â’m tîm meddygol, rwyf wedi dod i’r penderfyniad anodd bod yn rhaid i mi gamu i lawr o’m rôl i ganolbwyntio ar fy iechyd a’m lles ac felly rwyf wedi cyflwyno fy ymddiswyddiad.