Newyddion
-
Neil Morgan i sefyll yn isetholiad Gorllwein Tonyrefail
Roedd yr etholiad cyffredinol yn un llwyddiannus i Blaid Cymru wrth i ni gadw ein pedwar sedd a gweld cynnydd yn ein pleidlais yma ym Mhontypridd i’n hymgeisydd, Fflur Elin. Yn yr etholiad, daeth cynghorydd sir Gorllewin Tonyrefail yn Aelod Seneddol newydd etholaeth Pontypridd. Fel plaid, hoffwn ddymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd, ond rhaid i’w hetholiad olygu isetholiad cyn gynted a phosib yma.Na fydd yr ymrwymiad gwaith a theithio o fod yn AS yn ei gwneud yn anodd iddi gyflawni ei swydd fel cynghorydd sir? Rydym yn deall, o sylwad ar facebook na fydd yr AS newydd yn ymddiswyddo fel cynghorydd tan yn hwyrach yn y flwyddyn.Mae ein hymgeisydd ni yn barod ac yn edrych ymlaen am yr etholiad pryd bynnag a ddaw. Mae Neil Morgan, sydd yn byw yn Thomastown gyda’i wraig, Emma, a’i fab 5 mlwydd oed, yn teimlo’n gryf bod angen cynrychiolaeth gadarn ar drigolion lleol gan gynghorydd sydd wedi ymrwymo’n llawn i’r swydd, ac mae’n awyddus i siarad â chymaint o bobl Tonyrefail ac sy’n bosib rhwng nawr a’r etholiad sydd i ddod.Mae Neil yn gyfarwyddyd ar gwmni ymgynghori sydd hefyd yn treulio’i amser yn helpu’r gymuned. Yn ddiweddar fe ddaeth yn aelod o Lywodraethwyr Cwmlai a buodd yn arwain ar y gwaith o adnewyddu gardd natur yr ysgol.Mae Neil yn gobeithio am y cyfle i weithio ar y cyd gyda Cynghorydd Plaid Cymru dros Ddwyrain Tonyrefail, Danny Grehan er mwyn rhoi llais cryf i holl bobl Tonyrefail.Os hoffwch helpu i ethol Neil, cofrestrwch yma -
Stryd Newydd i Pontypridd?

Mae gan Pontypridd stryd newydd heb osod bricsen! Wel, efallai ddim yn newydd yn union ond o'r diwedd mae gan Blanche Street arwydd stryd sy'n dangos ble mae hi.
-
Y Miwni i Ail-agor

O'r diwedd, mae gobaith ar gyfer dyfodol y Muni. Mae Pontypridd wedi bod gymaint tlotach fel tref ers i'r Muni gau.
-
Dechrau'r Ymgyrch
Ymunodd Fflur Elin, ymgeisydd Plaid Cymru yn San Steffan ag ymgeisydd isetholiad cyngor Pentref yr Eglwys, Emma Thompson, a Chynghorwyr RhCT Heledd Fychan a Danny Grehan, yn ymgyrchu ym Mhentref yr Eglwys.

-
Newyddion y Haf
Ym mis Ebrill, cyflwynwyd mesurau arbennig yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar ôl i adolygiad allanol nodi “methiannau difrifol” gyda “braidd dim tystiolaeth o arweinyddiaeth glinigol effeithiol ar unrhyw lefel” ac ni chymerwyd pryderon cleifion o ddifrif. Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad annibynnol ar wasanaethau mamolaeth, arweiniodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd yn galw ar Weinidog Iechyd Llafur Vaughan Gethin i ymddiswyddo am y methiannau.

-
Diolch!
Hoffwn ddiolch i bawb ddaeth allan i bleidleisio a theimlaf bod eich ffydd ynof fi yn anrhydedd mawr. Hoffwn eich sicrhau fy mod yma i gynrychioli pawb yn ein ward, i bwy bynnag y gwnaethoch bleidleisio neu os na phleidleisioch chi o gwbl. Os nad wyf wedi cwrdd â chi eto, gobeithio caf y cyfle yn fuan iawn. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â chi, a drostoch chi, ac i weithio i newid pethau er lles ein cymuned.
-
Ad-drefnu ysgolion Pontypridd - ar y BBC

Dyma sut yr adroddodd y BBC ar benderfyniad Cabinet Llafur Rhondda Cynon Taf i gau Ysgol Pont Sion Norton a chanoli Addysg 6ed Dosbarth.
Rhoddwyd sylw i sylwadau Cyng Heledd Fychan Plaid Cymru :
"Fe wnaeth Heledd Fychan, cynghorydd Plaid Cymru, sy'n cynrychioli Pontypridd, annog arweinwyr y cyngor i" wrando ar bryderon pobl a'u cymryd o ddifrif ".
"Nid yw'r cyngor wedi cydweithio ac nid yw pobl wedi bod yn rhan o'r penderfyniadau," meddai.
Honnodd y Cynghorydd Fychan fod rhai rhieni bellach yn dewis addysg cyfrwng Saesneg yn hytrach na Chymraeg oherwydd cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton. "
-
Eleri Griffiths yn ennill is-etholiad
Eleri Griffiths Plaid Cymru yn ennill is-etholiad a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf yn dilyn marwolaeth drist y cyn-Gynghorydd Rob Smith.


Y canlyniad llawn oedd:



