Newyddion

  • Cynnau Goleuadau'r Nadolig - 18 Tachwedd 2017

    Xmas_lights_2017_Cym.JPG

    Mae Siôn Corn yn dod i ganol tref Pontypridd i gynnau goleuadau'r Nadolig!

    Bydd Ogof Siôn Corn ar agor rhwng 12:00 a 17:30, a'r Glôb Eira, ble mae modd cael llun am ddim, yn agor am 13:00!

  • Cynhadledd Plaid Cymru 2017

    Bu 2017 yn hanes dau etholiad, meddai Leanne wrth gefnogwyr Plaid Cymru. Ymysg yr hyn a alwyd yn lefelau nas gwelwyd erioed o’r blaen o bleidleisio tactegol, enillodd Plaid Cymru AS newydd.

    Tynnodd Leanne sylw hefyd at y ffaith mai Plaid Cymru wnaeth yr enillion ail fwyaf o unrhyw blaid yn y DG yn yr etholiadau lleol

  • Dod o hyd i'ch diwrnod casglu

    wheelie_bin.JPG

    Newydd symud tŷ?

    Ddim yn siŵr pryd i roi eich sbwriel mas?

     

    Os ydych chi moyn gadarnhau pryd fydd eich bin yn cael ei gasglu, cliciwch yma.

  • Sawl wythnos sydd tan y Nadolig?

    christmas_lights.jpg

    Gofynnodd Ioan Bellin cwestiwn i Gyngor newydd Cymuned Llanilltud Faerdref yn ystod yr haf os oedden nhw’n dal am fynd ymlaen gyda’r trefniadau ar gyfer y dathliad Nadolig a gynlluniwyd gan y cyngor blaenorol.
    Cadarnhawyd y bydd yr achlysur yn digwydd. Edrychwch mas am y digwyddiad ar benwythnos, Rhagfyr 2il. Diolch i Leanne y Clerc a holl staff y cyngor am drefnu’r digwyddiad hwn.

  • Meddygfa Park Lane

    smartphone.jpgY gwyn fwyaf gan bobl yn ystod yr etholiad lleol oedd y ffaith ei bod hi mor anodd cysylltu â’r feddygfa. Dw i’n falch o ddweud bod y feddygfa ar fin gosod system ffôn newydd, fydd yn gwneud ffonio’r feddygfa’n haws o lawer.

  • Bywyd Newydd i Groesfaen

    St_Davids_Church_Groesfaen.png

    Gan Carole Willis - Cynghorydd Cymuned Groesfaen:

    "Fel cynghorydd cymuned Groesfaen dros y misoedd diwethaf rwyf wedi siarad â llawer o drigolion sydd am weld mwy o weithgareddau cymunedol yn y pentref. Os ydym i gyd yn cydweithio gallwn drawsnewid ein cymuned.

  • Ail ffurfio democratiaeth

    Jess_Blair_speaking_reshaping_democracy_otley_arms_small.jpgCynhaliwyd cyfarfod yn yr Otley Arms, Trefforest ddydd Mercher diwethaf (Medi 27ain) i drafod sut y gellid mynd ati i wella’r ffordd rydym yn defnyddio democratiaeth.

  • Gwnewch y pethau bychain

     Tonyrefail_bench.jpg

    Danny Grehan - Cynghorydd newydd a bainc newydd ar Collenna.

     

  • Llanilltud Faerdref - Gwrthod adolygiad cyflymder

    Gwrthod adolygiad cyflymder

     

    Mae cais am arian i gynnal adolygiad diogelwch ar ffordd fawr Llanilltud Faerdref wedi ei wrthod.

    steve_owen_main_road.jpgDywedodd yr ymgyrchwr diogelwch ffyrdd Steven Owen:

    "Mae’n siomedig iawn bod y cais i’r Llywodraeth Lafur yng NghymruD gan Gyngor Diogelwch Ffyrdd wedi ei wrthod.

  • Ail-lunio democratiaeth Cymru

    electoral_reform_otley_arms.jpg

    Dewch i glywed Jess Blair (Cyfarwyddwraig yr Electoral Reform Society) a Siân Gwenllian (AC Plaid Cymru) yn trafod sut gallwn ni ddatblygu a gwella ein democratiaeth yng Nghymru.

    Cadeirydd Cyng. Danny Grehan