Newyddion
-
Ail Datblygu Pontypridd - Cynllunio
Ar ddydd Iau 9fed o Fedi, daeth datblygiad arfaethedig yr hen ganolfan siopa Cwm Taf ym Mhontypridd gerbron Pwyllgor Cynllunio RhCT.Fe gafodd ganiatâd cynllunio ac er bod Plaid Cymru yn cefnogi'r buddsoddiad ym Mhontypridd, siaradodd Heledd Fychan, Cynghorydd Plaid Cymru dros y Dref, yn y cyfarfod i fynegi pryderon trigolion, fel eu bod wedi eu cofnodi.
-
Mae Plaid Cymru yn croesawu camau i wahardd gwastraff plastig
“Mae dros 8 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd y moroedd bob blwyddyn, ac y mae hyn yn effeithio ar o leiaf 136 rhywogaeth o fywyd y môr, megis adar y glannau.
-
Ail-ddatblygiadau ym Mhontypridd

Mewn cyfarfod diweddar o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ceisiodd y Cynghorydd Plaid Cymru ar gyfer Tref Pontypridd, Heledd Fychan, gael sicrwydd ynghylch y nifer o swyddi newydd fydd yn cael eu creu drwy ddatblygiadau amrywiol ym Mhontypridd.
-
Cynnyrch misglwyf mewn ysgolion
Plaid Cymru yn sicrhau ymrwymiad i ymestyn argaeledd cynnyrch misglwyf mewn ysgolion.
Yn y cyfarfod ar ddydd Mercher 19 o Orffennaf o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sicrhaodd Cynghorwyr Plaid Cymru ymrwymiad gan Arweinydd y Cyngor am adolygiad brys er mwyn sicrhau bod pob disgybl benywaidd yn gallu cael cynnyrch misglwyf am ddim mewn ysgolion ar draws Rhondda Cynon Taf.
-
Fflur Elin yw ein hymgeisydd ym Mhontypridd
Dewch i gwrdd â'r ymgeisydd

-
Gwion Rees a Steven Owen - Llanilltud Faerdref
Steven OwenRwy'n falch iawn o fod wedi byw yn Llanilltud Faerdref trwy gydol fy mywyd. Es i i Ysgol Bryn Celynnog, Prifysgol Morgannwg ac yna i Abertawe i wneud Gradd Feistr. Rwy'n gynorthwyydd dysgu, yn gweithio'n rhan amser fel gofalwr i ddyn lleol ac yn diwtor. Fel rhywun yn y byd addysg, rydw i mor falch o glywed Plaid Cymru yn addo na fyddan nhw'n cyflwyno taliadau ar gyfer teithio i'r ysgol.
-
Parcio Tonyrefail
Buddugoliaeth parcio
Yn dilyn trafodaethau llwyddiannus ar gyllideb Cymru, sicrhaodd Plaid Cymru y bydd parcio mewn rhai meysydd parcio yn RhCT nawr tipyn yn rhatach.
