Newyddion

  • Coda dy Lais! Lansio Digwyddiadau Pleidleiswyr #TroCyntaf

    Am y tro cyntaf yn Nghymru, bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai.

    Black_and_Yellow_Voter_Education_Postcards_GD.jpg

     

    Mae dewis pwy i'w gefnogi yn benderfyniad mawr.
    I helpu gyda hyn, mae Heledd Fychan, ein hymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Senedd, wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ar gyfer pleidleiswyr tro cyntaf.
  • 50 diwrnod tan etholiad y Senedd

    Mewn 50 diwrnod, bydd cyfle gyda chi i bleidleisio dros eich cynrychiolydd nesaf yn y Senedd ac i ethol Llywodraeth nesaf Cymru.
    Ym Mhontypridd, mae pleidlais dros Heledd Fychan a Phlaid Cymru yn bleidlais dros newid, dros obaith, dros gynrychiolydd fydd yn ymladd i sicrhau bod ein cymunedau yn derbyn y gwasanaethau rydyn ni eu hangen a’u haeddu.
  • Cynllun Adfer Addysg

    Mae Plaid Cymru wedi lansio ei Chynllun Adfer Addysg, wrth iddi ddod i'r amlwg bod plant yng Nghymru wedi colli tua hanner blwyddyn o ddysgu yn ystod y pandemig.

    Wrth siarad yn Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru, amlinellodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Siân Gwenllian AS ei chynlluniau i helpu pob plentyn, person ifanc ac ysgol i wella ar ôl COVID-19.

  • #Pleidlais16!

     

    Mae'n wythnos #Pleidlais16! Ym mis Mai am y tro gynaf erioed mae pobl ifanc 16 ac 17 yn gallu pleidleisio! Cofiwch gofrestru! 🗳️

  • Brwydr dros Gyfiawnder i Ddioddefwyr Llifogydd yn Parhau Flwyddyn yn Ddiweddarach

    Adroddiad llifogydd

    "Mae'r angen am Ymchwiliad Annibynnol yn parhau, ac mae'r frwydr yn parhau nes i ni sicrhau cyfiawnder i'r rhai yr effeithiwyd arnynt a buddsoddiad mewn mesurau atal llifogydd. Ni fydd ein cymunedau'n gallu gorffwys hyd nes y bydd hyn yn digwydd, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl, a sefydlu Ymchwiliad Annibynnol fel mater o frys."

  • Cyng Heledd Fychan ar GTFM

    Heledd GTFM

    Gwrandewch yn ôl ar DJ GTFM Terry yn dal i fyny gyda'r Cynghorydd Sir ar gyfer Ward Tref Pontypridd, Heledd Fychan yn rhoi diweddariad ar: -

    • Ailagor y Bont Wen
      Cynlluniau i adnewyddu'r Bont Wen
      Datblygiad yr YMCA a chynnydd ar Ganolfan Gelf Muni

    Ar gael YMA

  • Nadine i Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd

    Nadine MarshallCafodd Nadine Marshall ei geni a’i magu ym Mro Morgannwg. Mae’n siarad Cymraeg, ac y mae Nadine yn byw gyda’i theulu yn y Barri, a chanddi 3 o blant ac 1 wŷr.

    Cyn cyfnod o weithio fel cydlynydd addysgol ar draws de-ddwyrain Cymru, bu Nadine yn gweithio fel darlithydd mewn addysg a gofal plant.

    Oherwydd amgylchiadau personol trychinebus, daeth Nadine yn gyfarwydd â’r system gyfiawnder a’r ffordd y mae’n gweithio. Wedi i’w mab hynaf, Conner, gael ei lofruddio mewn modd erchyll, cynhaliodd Nadine ymgyrch am bedair blynedd i herio a newid polisïau’r llywodraeth ynghylch rhannu gwybodaeth, diwygio gweithdrefnau a chydnabyddiaeth i deuluoedd y mae llofruddiaeth wedi effeithio arnynt.

  • Llythyr i HSBC

    Yn gynharach wythnos yma, ynghyd a LeanneRhondda ysgrifennais at HSBC i erfyn arnynt i ail-feddwl cau cangen Pontypridd a Tonysguboriau. Mae’n wasanaeth hanfodol i drigolion a busnesau.

    Gweithredwch nawr - llofnodwch y ddeiseb yma.