Newyddion

  • Atal Toriadau Taliad Tanwydd Gaeaf Llafur

    📝 Arwyddwch yma

    Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf – sydd werth hyd at £300 – nawr yn cael ei gwtogi trwy brawf modd. Dim ond pensiynwyr ar Gredyd Pensiwn neu rhai budd-daliadau eraill fydd yn ei dderbyn. Gallai'r toriad hwn adael hanner miliwn o bensiynwyr yng Nghymru yn waeth eu byd.

    Bydd cwtogi’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn rhoi iechyd pobl mewn perygl, gan roi hyd yn oed mwy o bwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd.

     

  • Cynhadledd y Cymoedd

    Braf oedd croesawu bron i 100 o aelodau o bob rhan o’r Cymoedd i Bontypridd ar ddydd Sadwrn 28ain Medi.

    Wrth i’r Blaid ddathlu un o’i chanlyniadau Etholiad Cyffredinol San Steffan gorau erioed mae’n bwysig ein bod yn edrych tuag at etholiadau’r Senedd a’r Cyngor.

  • Llwyddiant Ymgyrch Peiriannau Tocynnau Parcio!

    Ar ôl ymgyrch a arweiniwyd gan y Cynghorydd Dawn Wood o Blaid Cymru, a barodd ymhell dros flwyddyn mae Cyngor RhCT wedi cytuno i osod Peiriannau Tocynnau sy'n derbyn arian parod a cherdyn.

  • Diolch

    Diolch i bawb a bleidleisiodd dros y Blaid ym Mhontypridd. Mewn noson a welodd Gymru rydd o'r Torïaid gwthiodd Plaid Cymru'r Torïaid i'r 4ydd safle ym Mhontypridd. Ar yr un pryd cael cyfran uchaf y Blaid o'r bleidlais yn yr etholaeth ers dros 20 mlynedd.

  • Dewis ymgeisydd ifanc i fod yn llais newydd i Bontypridd yn San Steffan

    Aelodau lleol Plaid Cymru Pontypridd yn dewis Wiliam Rees, 25, i fod yn “lais newydd i Bontypridd” yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

    Mae Wiliam Rees, 25, yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru ym Mhontypridd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

    Yn cyhoeddi ei ymgeisyddiaeth, dywedodd Wiliam Rees, “Dwi eisiau bod yn llais newydd i Bontypridd yn San Steffan. Dwi eisiau fod yn AS a fydd yn gwrando ar drigolion lleol ac yn gweithredu ar eu rhan. 

  • Cyflwynwyd deiseb i'r Bwrdd Iechyd

    Mae Cynghorwyr Plaid Cymru Cilfynydd ac Ynysybwl ynghyd â Heledd Fychan (Aelod Senedd dros Ganol De Cymru) wedi cyflwyno deisebau wedi eu harwyddo gan dros 500 o drigolion i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

     

  • Covid Inquiry

    mask

    Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r dystiolaeth a roddwyd gan Vaughan Gething AS, cyn Weinidog Iechyd Cymru, ac ymgeisydd Prif Weinidog Llafur, i Ymchwiliad Covid y DU heddiw, 11 Mawrth 2024.

     

    Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal: Yr hyn sy’n amlwg o dystiolaeth shambolig heddiw yn ymchwiliad Covid y DU yw nad oedd Llywodraeth Lafur Cymru yn barod ar gyfer Covid.

     

  • Hyb Cynnes Newydd i Bentre'r Eglwys

    teacup

    Hyb Cynnes Newydd i Bentre'r Eglwys

    Mae Hyb Cynnes newydd ar gael yn rheolaidd ym Mhentre’r Eglwys, diolch i wirfoddolwyr o Eglwys Illtud Sant.

    Bydd Hyb Cynnes bob dydd Iau 1af, 3ydd, a 4ydd o’r mis o 9 a.m. – 12 canol dydd yng Nghanolfan Tŷ Illtud, (Heol Illtud Sant, Pentre’r Eglwys, Pontypridd, CF38 1EB).

  • Achub Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghilfynydd

    Lansio deiseb i Ddiogelu Dyfodol Meddygfa Cilfynydd

    Hywel Gronow

    Yr wythnos hon mae’r Cynghorydd Hywel Gronow wedi derbyn cadarnhad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod Taff Vale Practice wedi gwneud cais i gau cangen Cilfynydd. Bwriad y Bwrdd Iechyd yw cynnal ymarfer ymgysylltu â chleifion am 6 wythnos gan gysylltu â phob claf dros 15 oed sy’n byw yn ward Cilfynydd dros yr wythnosau nesaf i roi cyfle i leisiau lleol gael eu clywed.

  • Dathlu 75 mlynedd o'r GIG yng Nghymru a brwydro dros ei ddyfodol

    Wrth i Gymru ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), mae’r Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi talu teyrnged heddiw i staff rheng flaen ymroddedig sydd wedi darparu gwasanaeth a gofal amhrisiadwy ar hyd y blynyddoedd.