Neges gan Cyng Dawn Wood:
Annwyl breswylydd Ward Tref Pontypridd,
Fel y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol, bu’n rhaid i mi gymryd cyfnod o absenoldeb o’m rôl fel eich Cynghorydd RhCT a Chynghorydd Cyngor Tref Pontypridd dros misoedd diwethaf oherwydd heriau iechyd sylweddol sy’n gysylltiedig â’m tiwmor ar yr ymennydd.
Diolch am eich holl eiriau caredig, eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.
Ar ôl ystyriaeth ofalus ac ymgynghori â’m tîm meddygol, rwyf wedi dod i’r penderfyniad anodd bod yn rhaid i mi gamu i lawr o’m rôl i ganolbwyntio ar fy iechyd a’m lles ac felly rwyf wedi cyflwyno fy ymddiswyddiad.
Yn anffodus, mae pob llwybr triniaeth wedi’i archwilio ac mae fy rhagolygon bellach yn anffafriol, ac yn arbennig o wael, pe bawn i’n parhau yn y rôl hon.
Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd i’w wneud, ond rwy’n gobeithio y byddwch yn deall pam ei fod yn angenrheidiol.
Mae eich gwasanaethu chi - trigolion Ward Tref Pontypridd - wedi bod yn un o anrhydeddau mwyaf fy mywyd, ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymddiriedaeth a’r gefnogaeth y mae’r gymuned wedi’i dangos i mi dros y tair blynedd diwethaf. Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â fy nghyd-gynghorwyr Plaid Cymru a chynifer o unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned.
Bydd trefniadau nawr yn cael eu gwneud gan Gyngor RhCT a Chyngor Tref Pontypridd i ethol rhywun yn fy lle. Mae Heledd Fychan yn parhau fel eich cynrychiolydd ar Gyngor Tref Pontypridd, yn ogystal a bod yn un o'ch Aelodau o'r Senedd, ac fel bob amser, gellir cysylltu â hi am gymorth drwy [email protected] neu [email protected] Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth yn ystod yr amser heriol hwn.
Pob lwc i'r cyngor a'r gymuned ar gyfer y dyfodol.
Y Cynghorydd Dawn Wood