Heledd Fychan

Heledd Fychan

Helo pawb,

Heledd ydw i, yr ymgeisydd sydd ar frig rhestr Plaid Cymru ar gyfer Etholiad y Senedd 2026. Ers 2021, rwyf wedi bod yn Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, gan gynrychioli cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, a Bro Morgannwg.

Rwyf yn byw ym Mhontypridd gyda fy ngŵr ac ein mab. Cefais fy magu yn Ynys Môn, ac yna mynd i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn. Yn ystod fy nghyfnod yn yr Iwerddon, cefais fy ethol fel Swyddog Sabothol Addysg Undeb y Coleg ac yna fel swyddog sabathol Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Wedi hynny, dychwelais i Gymru ac fe es ymlaen i gwblhau fy ngradd meistr mewn Hanes y Canoloesoedd ym Mhrifysgol Bangor.

Bum yn gweithio am gyfnod wedi hynny i grŵp Plaid Cymru yn San Steffan cyn dychwelyd unwaith eto i Gymru i weithio i Amgueddfa Cymru. Cyn etholiad 2021, roeddwn yn gweithio fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus y sefydliad, gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Yn ogystal â hyn, cefais fy ethol yn aelod o fwrdd Cymdeithas yr Amgueddfeydd, gan gadeirio eu pwyllgorau Moeseg a Cenhedloedd.

Er mai hwn fydd y tro cyntaf y byddaf yn cynrychioli ardaloedd Merthyr, rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar nifer o bynciau sydd yn bwysig i'n holl gymunedau ers nifer o flynyddoedd. Yn 2017, cefais fy ethol i gynrychioli Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn ogystal a Chyngor Tref Pontypridd. Ers fy ethol, rwyf wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd lleol amlwg, megis galw am ymchwiliad annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a gwrthwynebu newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.

Rhaid inni weithredu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae gennym ddeng mlynedd i achub ein planed, ac mae angen Llywodraeth arnom a fydd yn blaenoriaethu gweithredu brys yn hytrach na gwneud addewidion gwag.

Mae mynd i'r afael a thlodi plant, a sicrhau cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru hefyd yn flaenoriaeth imi. Mae’n frawychus bod mwy a mwy o deuluoedd o fewn ein rhanbarth yn ddibynol ar fanciau bwyd, a heb fynediad at nwyddau cyfangwbl allweddol megis bwyd.  

Rwyf hefyd yn lefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, y Gymraeg a Diwylliant, yn ogystal a bod yn Reolwr Busnes i'r grŵp yn y Senedd.

Yn ogystal â'm dyletswyddau yn y Siambr, rwyf hefyd yn eistedd ar y pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Cymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a Pwyllgor Biliau Diwygio.

Gallwch glywed mwy am fy ngwaith yn y Senedd drwy glicio yma

neu gallwch fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

 

                                       

 

Mae fy swyddfa leol ym Mhontypridd. Rwyf yn cynnal cymorthfeydd rheolaidd lle rwyf yn cynnig help a chyngor i bobl sydd angen cefnogaeth, yn y swyddfa a ledled y rhanbarth. Os oes angen cymorth arnoch, mae croeso ichi gysylltu â mi neu fy nhîm trwy anfon e-bost ataf-  [email protected] neu ffonio 01443 853214