Swyddfa Post Pontypridd

swyddfa_post_sign.jpg

Dywedodd Heledd Fychan, Cynghorydd Plaid Cymru dros Tref Pontypridd:

"Mae'r Swyddfa Bost yn rhan hanfodol o'r dref, gan ddarparu gwasanaethau pwysig yn ogystal a dennu llawer o bobl i mewn i Bontypridd sydd wedyn yn ymweld â siopau a busnesau eraill.

"Rydw i wedi bod mewn cysylltiad â Swyddfa'r Post ac wedi derbyn sicrwydd eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod Swyddfa'r Post yn parhau ym Mhontypridd. Maent eisoes yn edrych ar adeiladau amgen yn y dref, ac maent yn awyddus i ddod o hyd i ateb dros dro cyn gynted ag y bo modd cyn y gellir dod o hyd i rywbeth mwy parhaol.

"Rydw i hefyd wedi fy nhristhau gan y newyddion am gau Dennis Pounder Travel, a fydd yn golled i Bontypridd."

Yn hwyrach y prynhawn hwn cafwyd hefyd y datganiad canlynol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf:

swyddfa_post_mill_street.jpg"Mae’r Cyngor yn effro i’r ffaith bod swyddfa’r post ar Stryd y Felin, Pontypridd, ar gau dros dro, heb roi rhybudd.

"Hoffen ni dawelu meddwl trigolion – mae Swyddfa’r Post wedi cadarnhau ei bod yn gwneud ei gorau glas i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnig ym Mhontypridd cyn gynted â phosibl. Mae Swyddfa’r Post hefyd wedi rhoi gwybod ei bod yn ystyried symud y gangen i adeilad arall yn y dref.

"Yn y cyfamser, mae Swyddfa’r Post yn annog trigolion i ddefnyddio canghennau ...eraill ym Maes-y-coed, Trallwn, Trefforest a Glyn-coch.

"Rydyn ni wedi gofyn i Swyddfa’r Post roi gwybod i ni am unrhyw ddatblygiadau. Byddwn ni’n rhoi’r newyddion diweddaraf i drigolion maes o law."