
Bu farw’r Athro Ivor Delme Bowen ar 25 Mawrth 2026, yn 82 oed. Roedd Delme yn un o hoelion wyth y mudiad cenedlaethol ac yn sefyll dros Blaid Cymru ar bob lefel. Gwasanaethodd bobl Taf Elai fel y cynghorydd ym Mhont-y-clun ac yn ddiweddarach wrth i ffiniau newid yng Nghreigiau a symudodd wedi hynny i Ddinas Caerdydd.
Roedd yn gymeriad mwy na bywyd a oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am y gefnogaeth hir sefydlog i Blaid Cymru yn rhan ddeheuol Taf Elai.
Bydd pawb a’i hadnabu’n ei golli.