Parcio Tonyrefail

Buddugoliaeth parcio

Danny_Grehan_small.pngYn dilyn trafodaethau llwyddiannus ar gyllideb Cymru, sicrhaodd Plaid Cymru y bydd parcio mewn rhai meysydd parcio yn RhCT nawr tipyn yn rhatach.

Newyddion da i fusnesau bach lleol sydd wedi dioddef gymaint oherwydd y gost o barcio.

Wrth gwrs, mae parcio wedi bod yn destun trafod yma yn Nhonyrefail ers blynyddoedd, a’r busnesau bach wedi bod yn galw am unrhyw fath o ddarpariaeth parcio!

Mae addewidion wedi eu torri dro ar ôl tro.

Byddaf yn gweithio gyda busnesau a grwpiau eraill Tonyrefail am well darpariaeth parcio.