
Daeth fy nghyflwyniad i wleidyddiaeth yn gynnar yn yr 80au pan gynhaliodd fy ysgol uwchradd etholiadau ffug ac, gan fy mod yn ddarllenydd brwd ar y pryd, cefais fy sbarduno gan daflenni Plaid Cymru.
Fel y rhan fwyaf o ddynion y Cymoedd, cael a chadw swydd a magu teulu oedd popeth tan 2015 pan gynhaliodd Yes Cymru orymdaith Merthyr a symudodd fi o gefnogwr i ymgyrchydd.
Ers hynny, rydw i wedi sefyll dros y Senedd a'r Cyngor ac yn credu bod angen i mi fod yn weithgar i helpu i sicrhau'r newid cadarnhaol sydd ei angen arnom yng Nghymru ac mai dim ond Plaid Cymru sy'n cynnig y newid cadarnhaol hwnnw.