Llygredd aer ar Heol Berw

Berw Road

 "Cam mawr tuag at fynd i'r afael â llygredd aer ar Heol Berw."  Dyna oedd ymateb y Cynghorydd Heledd Fychan wedi derbyn y newyddion y bydd RhCT yn gosod cynllun monitro llygredd aer ar Heol Berw.

Mae Heol Berw wastad wedi bod gyda lefelau uchel o draffig gan mai dyma'r prif ffordd i Glyncoch, Ynysybwl a Choed-y-Cwm yn ogystal â Chwarel Craig-yr-Hesg.  Gyda cau'r Bont Wen yn dilyn llifogydd Chwefror 2020 mae mwy o draffig yn defnyddio'r ffordd, gan achosi mwy o dagfeydd wrth y gyffordd ger yr Hen Bont.
 
Ategodd y Cynghorydd Fychan:


"Monitro ansawdd yr aer yw'r cam cyntaf tuag at fynd i'r afael â'r broblem hon.  Mae'n amlwg i drigolion lleol fod problem, gallwch edrych ar ffenestri UPVC a fframiau drysau i weld pa mor gyflym y maent yn troi'n ddu oherwydd llygredd. Bydd mesur llygredd aer fel hyn yn galluogi RhCT i gymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl leol."